Amdanom Ni

English
Pwy ydyn ni?

Sefydlwyd Darllen Co. ym mis Mawrth 2022 gan gyn-athrawon gyda’r nod o fynd i’r afael â’r diffyg adnoddau dysgu digidol Cymraeg sydd ar gael i athrawon, plant a rhieni yng Nhymru. Mae ein llwyfan darllen wedi’i gynllunio i annog plant i ddarllen yn Gymraeg bob dydd a helpu athrawon i gadw golwg ar eu cynnydd darllen.

 

Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag awduron a darlunwyr Cymreig i greu llyfrau cyfoes, cyffrous sy’n adlewyrchu cymunedau Cymru heddiw. Fe welwch chi gasgliad o’r awduron a’r darlunwyr gwych sydd wedi cyfrannu at y wefan isod. Cysylltwch i gael cip olwg ar y llyfrau!

Awduron a Darlunwyr

Sioned Medi Evans
Rhiannon Lloyd Williams
Catrin Stevens
Owain Roberts
Lia Pritchard
Osian Grifford

Ein Cenhadaeth Ddarllen

Dysgwyr Llawn Cymhelliant

Mae gan bob plentyn hawl i ddarllen.
Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at lyfrau cyffrous, cynhwysol, o safon, a fydd yn hybu cariad gydol oes at ddarllen yn yr ysgol a gartref ac yn eu helpu i ddatblygu’n ddinasyddion hyderus.

Help llaw i athrawon

Rydyn ni'n gwybod beth sydd ei angen ar athrawon.
Mae ein gwefan yn cael ei chreu gan athrawon ar gyfer athrawon, gan arbed amser ac adnoddau gwerthfawr iddynt a sicrhau eu bod yn gallu addysgu darllen gyda hyder, hwyl a mwynhad.

Rhieni hyderus

(Yn Dod yn Fuan)
Mae darllen gartref yn hollbwysig ond mae'n gallu bod yn heriol ar adegau, yn enwedig os nad ydych yn siarad Cymraeg. Rydyn ni yma i’ch helpu. Gyda’n Porth Rhieni byddwch yn cael mynediad i lawer mwy o adnoddau i roi’r hyder a’r gefnogaeth yr ydych yn eu haeddu er mwyn cefnogi eich plentyn.