Mae ein llwyfan darllen wedi’i gynllunio i annog plant i ddarllen yn Gymraeg bob dydd a helpu athrawon i gadw golwg ar eu cynnydd darllen. Darganfyddwch fwy trwy drefnu demo heddiw!
Gall athrawon olrhain perfformiad darllen eu dysgwyr trwy edrych ar amser darllen dyddiol, sgoriau cwis, pryd y gwnaethant fewngofnodi ddiwethaf a mwy. Gall athrawon hefyd ddefnyddio ein cynlluniau ar gyfer sesiynau darllen unigol, grŵp a dosbarth cyfan.
Mae cynrychiolaeth ddilys ac amrywiol mewn llyfrau yn cael effaith sylweddol ar ddarllenwyr. Ein cenhadaeth yw mynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn ein llyfrau ac adlewyrchu cymdeithas Cymru heddiw.
Defnyddiwch ein dull darllen, a brofwyd yn yr ystafell ddosbarth, Sgiliau'r Ddraig, i helpu i ddatblygu sgiliau darllen a deall cryf. Defnyddiwch y botwm darllen-i-mi i helpu i ddatblygu rhuglder a mynegiant.
Llwythwch eich dosbarth i fyny, crëwch eich grwpiau a dechreuwch neilltuo llyfrau i'ch dysgwyr eu mwynhau.
Rydym am weithio’n agos gydag ysgolion yng Nghymru i sicrhau bod ein gwefan y gorau y gall fod ac yn diwallu eich anghenion. Eisiau gweld llyfr am bwnc arbennig? Eisiau i ni ychwanegu swyddogaeth benodol i'r wefan? Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y wefan yn cwrdd â'ch anghenion.
Dechrau