Enw llawn: Iestyn Tyne
Man geni / byw: Yn wreiddiol o Ben Llŷn, ac yn byw erbyn hyn yn Waunfawr ger Caernarfon
Ysgolion: Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol Uwchradd Botwnnog
Hoff lyfr fel plentyn: Amazing Questions and Answers – dau glamp o lyfr trwchus yn llawn ffeithiau am bob math o bethau!
2 ffaith hwyliog amdanoch chi:
- Doedd dim teledu adra pan o’n i’n tyfu i fyny – felly mae llyfrau wedi bod yn bwysig iawn i mi ers y dechrau.
- Dwi bellach yn dad i ddau o blant bach fy hun, ac amdanyn nhw fydda i’n meddwl wrth sgwennu straeon plant!