English

Pwy ydym ni?

Adnodd llyfrau rhyngweithiol ar gyfer plant ysgolion cynradd, athrawon a rhieni Cymru yw Darllen Co.

Ein nod yw sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at lyfrau cyffrous, cynhwysol, o safon, a fydd yn hybu cariad gydol oes at ddarllen yn yr ysgol ac yn y cartref.

Yr hyn a wnawn

Dysgwyr llawn cymhelliant

Rydyn ni’n darparu amrywiaeth o lyfrau cyffrous a chynhwysol gan awduron a darlunwyr gorau Cymru.

Bydd ein llyfrgell sy’n tyfu’n barhaus yn hybu hyder a datblygu annibyniaeth ar yr un pryd â gwella sgiliau darllen, a darllen a deall.

Athrawon Hapus

Eisiau arbed amser? Gallwch neilltuo llyfrau i’r dosbarth cyfan, i grwpiau penodol neu i ddysgwyr unigol. Aseswch ddysgu eich dysgwyr gydag adroddiadau darllen dyddiol a sgorio cwisiau darllen a deall yn awtomatig.

Defnyddiwch ein dull darllen Sgiliau’r Ddraig (DRRAEG) wrth ddarllen gyda’ch dysgwyr i feithrin darllenwyr medrus.

Rhieni Hyderus

Mae ffeil sain darllen-i-mi gyda phob llyfr sy’n rhoi’r hyder i chi gefnogi’ch plentyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae gennym gyhoeddiad cyffrous am ein porth rhieni yn dod yn fuan.

Ein Llyfrau

Gwneud darllen yn hawdd.

I blant. I athrawon. I rieni.

Cysylltwch â ni nawr i greu eich pecyn personol.

Cysylltu